
Mae wedi bod yn gyfnod llwyddiannus iawn i rhai o’n cynfyfyrwyr. Ychydig wythnosau yn ol cyhoeddwyd mai Alex Jones yw cyflwynydd newydd The One Show ar BBC1. Bu Alex yn fyfyrwraig BA Theatr, Ffilm a Theledu yn yr Adran rhwng 1995-1998, ac wedi hynny fe fu’n ymchwilydd teledu cyn troi at yrfa o flaen y camera, yn cyflwyno rhaglenni megis Tocyn, Salon a Chwa. Fe fydd yn ymddangos ar soffa The One Show am y tro cyntaf ddydd Llun nesaf, 16eg o Awst. Pob lwc iddi hi!

Richard Davies oedd person prysura’ Cymru yr wythnos diwethaf. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, ac roedd yr Eisteddofd eleni yn benllanw dwy flynedd o waith caled iddo. Bu Richard yn fyfyriwr Drama yn yr Adran rhwng 1996-1999 ac mae e bellach yn Bennaeth Adran Ddrama Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl. Llongyfarchaidau iddo yntau am Eisteddfod hynod o lwyddiannus.
Cyhoeddwyd gan: theatrffilmteledu | Awst 10, 2010
Llwyddiant Cynfyfyrwyr
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Teledu