Cyhoeddwyd gan: theatrffilmteledu | Mawrth 16, 2010

Hamlet, Tinopolis a Stiwdio Newydd

Gyda’r Pasg dim ond rownd y gornel, mae’r bwrlwm yn yr Adran yn parhau! Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae myfyrywr Drama o’r ail a’r drydedd flwyddyn wedi bod yn ymarfer Hamlet, gyda’r perfformiad cyntaf yn digwydd heddiw. Mae’r sioe yn agor mewn lleoliad anarferol efallai, sef Eglwys Llanbadarn. Os hoffech archebu tocynnau ar gyfer y sioe, gallwch wneud hynny yma.
Hefyd, yr wythnos hon, mae myfyrwyr y drydedd flwyddyn sy’n astudio Cynhyrchu Stiwdio yn mynd ar ymweliad i stiwdios a swyddfeydd Tinopolis yn Llanelli. Mae nifer o’n cyn fyfyrwyr yn gweithio yno, felly fe fydd yna ddigon o wynebau cyfarwydd! Elin Hefin sy’n arwain y modiwlau cynhyrchu stiwdio, a hynny mewn stiwdio newydd sbon gwerth £200,000 yn Adeilad Parry-Williams. Yn ogystal ag offer galeri a chamerau HD newydd, ceir nifer o nodweddion arbennig megis golau arbenigol a sgrin werdd. Cewch glywed mwy am y sgrin yn y man….


Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.