
Mae wedi bod yn gyfnod llwyddiannus iawn i rhai o’n cynfyfyrwyr. Ychydig wythnosau yn ol cyhoeddwyd mai Alex Jones yw cyflwynydd newydd The One Show ar BBC1. Bu Alex yn fyfyrwraig BA Theatr, Ffilm a Theledu yn yr Adran rhwng 1995-1998, ac wedi hynny fe fu’n ymchwilydd teledu cyn troi at yrfa o flaen y camera, yn cyflwyno rhaglenni megis Tocyn, Salon a Chwa. Fe fydd yn ymddangos ar soffa The One Show am y tro cyntaf ddydd Llun nesaf, 16eg o Awst. Pob lwc iddi hi!

Richard Davies oedd person prysura’ Cymru yr wythnos diwethaf. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, ac roedd yr Eisteddofd eleni yn benllanw dwy flynedd o waith caled iddo. Bu Richard yn fyfyriwr Drama yn yr Adran rhwng 1996-1999 ac mae e bellach yn Bennaeth Adran Ddrama Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl. Llongyfarchaidau iddo yntau am Eisteddfod hynod o lwyddiannus.
Llwyddiant Cynfyfyrwyr
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Teledu
Cyn-fyfyriwr: Alun Saunders

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2001 es i hyfforddi fel Actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio fel Actor ac Awdur Sgriptiau broffesiynol i gwmnïau fel Clwyd Theatr Cymru, Theatr na n’Og, BBC Radio 4, Teledu Apollo, Fiction Factory a Wales Theatre Company.
Cefais amser gwych wrth weithio ar ein prosiectau ymarferol, yn enwedig yn y drydedd flwyddyn, wrth i ni greu gwaith creadigol a gwahanol iawn yn ogystal â chael gweithio’n agos gyda’n ffrindiau ar yr un pryd.
Fe wnes i rai o ffrindiau gorau ‘mywyd i yn ystod fy amser yn Aberystwyth – ffrindiau gydol oes sydd dal yn grŵp agos deng mlynedd yn ddiweddarach. Er i’r dre ymddangos yn dawel ar y cychwyn, ‘nes i ddarganfod yn fuan iawn fod gan Aberystwyth popeth ‘roedd ei hangen am dair blynedd hollol, hollol wych!
Roedd astudio Drama yn Aberystwyth yn brofiad ffantastig. Wrth astudio ystod mor eang o waith y byd theatr cefais sail gadarn i yrfa yn y maes.
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Perfformio, Theatr
Hamlet, Tinopolis a Stiwdio Newydd
Hefyd, yr wythnos hon, mae myfyrwyr y drydedd flwyddyn sy’n astudio Cynhyrchu Stiwdio yn mynd ar ymweliad i stiwdios a swyddfeydd Tinopolis yn Llanelli. Mae nifer o’n cyn fyfyrwyr yn gweithio yno, felly fe fydd yna ddigon o wynebau cyfarwydd! Elin Hefin sy’n arwain y modiwlau cynhyrchu stiwdio, a hynny mewn stiwdio newydd sbon gwerth £200,000 yn Adeilad Parry-Williams. Yn ogystal ag offer galeri a chamerau HD newydd, ceir nifer o nodweddion arbennig megis golau arbenigol a sgrin werdd. Cewch glywed mwy am y sgrin yn y man….
Postiwyd yn Uncategorized
Bywyd y Bugail
Heno fe fydd rhaglen a gyfarwyddwyd gan un o’n cyn-fyfyrwyr yn cael ei ddarlledu ar S4C. Graddiodd Iwan England o’r Adran yn 1999, ac ers hynny mae e wedi gweithio i gylchgrawn Golwg a Boomerang + cyn mentro i’r byd llaw rhydd fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Profodd tipyn o lwyddiant eisoes, gyda’i gyfres Ffordd Newydd o Fyw yn ennill iddo enwebiad ar gyfer Gwobr BAFTA Cymru. Mae O’r Galon: Bywyd y Bugail wedi dod ag Iwan yn ol i ardal Aberystwyth wrth iddo ddilyn bywyd Erwyd Howells, un o fugeiliaid traddodiadol olaf Cymru, wrth ei waith bob dydd. Darlledir y rhaglen heno am 9 o’r gloch a gallwch wylio rhagflas yma.
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Teledu
Bwrlwm Tymor Newydd
Mae’r tymor newydd wedi cychwyn heddiw gyda’r bang mwyaf! Mae’r modiwlau Hunaniaeth Ddiwylliannol ar y Sgrin, Theatr Ewrop Fodern wedi cychwyn heddiw, yn ogystal a Chynhyrchu Stiwdio, sydd wedi ymgartrefu yn stiwdio newydd sbon R. Gerallt Jones yn Adeilad Parry-Williams. Cewch weld lluniau o’r datblygiad newydd hwn yn y man! Yn ogystal, mae yna gynyrchiadau amrywiol yn digwydd hyd a lled y dre, gyda’r myfyrwyr yn ymarfer Hamlet yn Theatr y Castell (perfformiadau ar 16 a 17 o Fawrth). Yng Nghanolfan Arad Goch yfory fydd perfformiad o Ceisio’i Bywyd Hi (Martin Crimp) gan Rachel Loveridge o’r ail flwyddyn ac Effi’n Llosgi (Valerie Windsor) gan Stephanie Rees o’r drydedd flwyddyn yn Ystafell Rheidiol ddydd Mercher. Ddydd Iau, bydd datblygaid arall cyffrous yn ein perthynas strategol gyda chwmni Boomerang +. Cwmni Boomerang sy’n rhedeg ein modiwl Ymchwil Cynhyrchiad i bob pwrpas, gyda staff y cwmni yn cynnal y sesiynau wythnosol. Dr Dafydd Sills-Jones, Darlithydd mewn Cynhrychu Cyfryngau, sy’n cydlynu’r modiwl, a dyma i chi restr o gyfranwyr o gwmni Boomerang:
Amanda Harris: Uwch-gynhyrchydd rhaglenni y Sioe Frenhinol a Y 7 Magnifico a ennillodd wobr Bafta Cymru y llynedd.
Caryl James: Cynfyfyrwraig yn yr Adran (hwre!) ac is-gynhrychydd sydd wedi gweithio ar y ffilm Ryan a Ronnie, Seren Bethlehem a Teulu.
Dafydd Llyr: Cyn bennaeth rhaglenni ffeithiol Cymrage a Saesneg HTV a chynhyrchydd rhaglenni dogfen i’r BBC, HTV a S4C.
Artie Thomas: Rheolwr Cynhrychiad i bob math o raglenni, o gynyrchiadau drama i ddigwyddiadau byw.
Euryn Ogwen Williams: Brenin y byd darlledu yng Nghymru! gwaneth gyfraniad arloesol i HTV cyn dyfodiad S4C, ef oedd Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf S4C a bellach mae’n ymgynghorydd strategol i Boomerang.
Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle euraidd i fyfyrwyr weithio ochr yn ochr a phobl broffesiynol, ac fe fyddant hefyd yn gweithio ar eitemau go iawn a fydd yn ymddagnos ar S4C. Bois bach mae pethau’n argoeli’n dda!
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Cynyrchiadau, Perfformio, Staff, Teledu, Theatr
Nadolig Llawen!
Postiwyd yn Uncategorized
Llongyfarchiadau Jamie!
Llongyfarchiadau mawr i Dr Jamie Medhurst ar ennill grant Rhwydweithio Ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) gwerth bron £34,000. Mae’r rhwydwaith rhyngwladol hwn, o’r enw ‘British quality, American chaos? Transnational discourses and interactions in the history of British and North American broadcasting, c.1922-1962′ yn dod ag ysgolheigion, ymchwilwyr ac archifwyr at ei gilydd o wledydd Prydain, gogledd America a’r tu hwnt. Mae Jamie yn ddarlithydd mewn hanes y teledu ac mae’n dysgu nifer o fodiwlau ar y cynllun gradd Astudiaethau Ffilm a Theledu.
Rhodri Meilir
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Ffilm, Perfformio, Theatr
Blodau
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Teledu, Theatr
Stuart Kershaw

Yr wythnos diwethaf, cafwyd ymweliad gan Stuart Kershaw, un o’n cynfyfywyr. Daeth i sgwrsio a’n glasfyfyrwyr am ei brofiadu ym myd y gwaith ers iddo raddio yn 2003. Mae Stuart bellach yn rhedeg ei gwmni teledu ei hun, In the Dark Productions, ond yn ogsytal a hynny mae e wedi cyflawni mwy nag un camp. Llynedd, fe geisiodd rhedeg saith marathon, mewn saith diwrnod, ar saith gyfandir wahanol. At hynny, mae e wedi torri record byd wrth rhwyfo mor yr Iwerydd fel rhan o tim o bedwar ar ddeg o ddynion. Llwyddodd y criw i rwyfo drwy bum cylchfa amser mewn 33 diwrnod, gan ennill tystysgrif gan y Guinness Book of Records.
Mae stori epig y rhwyfo ar fin ymddangos mewn 35 o sinemau ym Mhrydain. Darllenwch mwy am hynny yn fan hyn.
Postiwyd yn Cyn-fyfyrwyr, Ffilm






